Pwyllgor Menter a Busnes
Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes yn cynnal ymchwiliad byr i gynigion Horizon 2020, a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ym mis Tachwedd 2011.
Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb mewn ystyried y cysylltiadau posibl rhwng Horizon 2020 a’r cynigion a wnaed ar gyfer Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, yn benodol o ran creu synergeddau gyda’r nod o wella perfformiad cyffredinol prifysgolion a busnesau Cymru mewn perthynas â rhaglenni ymchwil yr UE.
Mae cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
Os hoffech gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad i Pwyllgor.menter@cymru.gov.uk, neu anfonwch eich tystiolaeth drwy’r post at:
Siân Phipps
Clerc
Y Pwyllgor Menter a Busnes
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd CF99 1NA
Dylai eich cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Llun 23 Ebrill 2012. bosibl na fydd modd ystyried ymatebion a fydd yn dod i law ar ôl y dyddiad hwn.
Datgelu gwybodaeth
Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.
Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.
Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.